Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud heddiw ei bod hi am weld y bwlch economaidd rhwng Cymru a Lloegr yn cau.

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi adroddiad Bwlch Offa gan gomisiwn economaidd newydd y blaid sy’n dadlau bod angen cau’r bwlch mewn cyflogau a chynhyrchiant economaidd rhwng Cymru a Lloegr.

‘Os mai cyflawni hunanhyder diwylliannol oedd y flaenoriaeth ar gyfer y ganrif ddiwethaf yna cyflawni hunanhyder economaidd yw’r nod ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,” meddai Leanne Wood mewn datganiad heddiw yn ystod ymweliad â chwmni Sigma3 yn Llantrisant.

“Dyna pam mai ein prif nod yw’r dasg o gau’r bwlch mewn incymau cyfartalog rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig a gweddill yr Undeb Ewropeaidd, o fewn cenhedlaeth.”

Adroddiad Bwlch Offa

Mae comisiwn economaidd Plaid Cymru yn cael ei gadeirio gan yr economegydd Eurfyl ap Gwilym a’r cyn-Aelod Seneddol Adam Price.

Dywedodd Adam Price fod adroddiad Bwlch Offa yn “ddeunydd darllen llym iawn.”

“Mae’n ddadansoddiad difrifol o sut mae economi Cymru wedi dioddef dros y degawdau diwethaf oherwydd ei statws o fewn y Deyrnas Gyfunol.

“Y cam cyntaf o ran datrys unrhyw broblem yw sefydlu natur a maint hyn.  Mae adroddiad cyntaf ein comisiwn yn gwneud hyn, gan gydnabod y realiti economaidd y mae Cymru yn ei hwynebu heddiw.

“Gyda lansio’r adroddiad hwn, rydym yn gwahodd pawb yng Nghymru i gymryd rhan yn y broses hanfodol hon o ddarganfod gyda’n gilydd y syniadau a’r strategaethau a fydd yn cynnig gwell dyfodol economaidd ar gyfer ein gwlad.

“Dim ond drwy gyfuno’n deallusrwydd y gallwn ni obeithio dechrau ar y dasg o ddilyn cwrs gwahanol” ychwanegodd Adam Price.