Mosg yn Abertawe
Ar drothwy cyfnod Ramadan y ffydd Fwslimaidd mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dymuno’n dda i Fwslemiaid Cymru.
“Ar adeg y Ramadan, hoffwn i estyn dymuniadau gwresog i bob Mwslim yng Nghymru ac ym mhedwar ban y byd,” meddai Carwyn Jones.
“Rydyn ni i gyd yn rhannu’r gwerthoedd sy’n ganolog i Ramadan, sef elusengarwch, trugaredd a meddwl am eraill.
“Yn ystod y cyfnod hwn mae’r cymunedau Mwslimaidd yn dod ynghyd i weddïo a synfyfyrio, i rannu prydau ac i gefnogi’r rhai llai ffodus.
“Hoffwn ddymuno mis bendigedig i bawb sy’n dilyn y Ramadan, a heddwch a hapusrwydd trwy gydol y flwyddyn.”
Mae cyfnod y Ramadan yn dechrau yfory ac yn para am 30 diwrnod. Yn ystod y Ramadan mae Mwslemiaid yn ymprydio yn ystod y dydd tan fachlud haul.