Dafydd Elis-Thomas
Fe gyhoeddwyd neithiwr bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi colli chwip ei blaid ond yn ol adroddiadau bore ma mae disgwyl iddo herio’r penderfyniad.

Roedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi methu â phleidleisio yn y Senedd neithiwr yn y bleidlais ar ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.

Mae’n debyg ei fod yn anhapus gyda datblygiadau’r drafodaeth ynglŷn â Lesley Griffiths a’r honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi dylanwadu ar adroddiad ynglŷn ag ad-drefnu gwasanaethau iechyd.

Ni wnaeth yr aelod dros Ddwyfor Meirionnydd “ddarparu rheswm digonol am ei absenoldeb” yn ôl llefarydd Plaid Cymru.

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi colli’r chwip dros dro tra bod proses fewnol yn cael ei chwblhau. Ond mae disgwyl iddo ddadlau nad oedd yn absenol heb reswm.

Yn ôl y BBC, roedd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud yn gynharach ddoe: “Dwi’n meddwl ei fod o’n hen bryd i ni dyfu i fyny fel plaid (a pheidio) bod yn gŵn bach neu’n ail feiolin i’r Ceidwadwyr”.

Aeth yn ei flaen i ddweud, “Mae’r holl ddadl yma’n rhoi rhagfarn o flaen tystiolaeth a dwi ddim eisiau bod yn rhan o’r fath drafodaethau.”

Mae’r  Gweinidog Iechyd wedi ennill y bleidlais o ddiffyg hyder yn ei herbyn heno. Roedd  29 wedi pleidleisio yn erbyn a 28 o blaid.