Dafydd Elis-Thomas
Doedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ddim yn bresennol yn y Cynulliad heddiw, mae’n debyg am ei fod yn anhapus gyda datblygiadau’r drafodaeth ynglŷn â’r Gweinidog Iechyd.

Yn ôl gohebydd gwleidyddol y BBC, Vaughan Roderick, oedd wedi trydar ei sylwadau, honnir i Dafydd Elis-Thomas ddweud, “Dwi’n meddwl i fod o’n hen bryd i ni dyfu i fyny fel plaid (a pheidio) bod yn gŵn bach neu’n ail feiolin i’r Ceidwadwyr”.

Aeth yn ei flaen i ddweud, “Mae’r holl ddadl yma’n rhoi rhagfarn o flaen tystiolaeth a dwi ddim eisiau bod yn rhan o’r fath drafodaethau.”

Mae’r Gweinidog Iechyd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei herbyn yn dilyn dadleuon tros ‘annibyniaeth’ adroddiad am ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Doedd Plaid Cymru ddim am wneud datganiad swyddogol ar y mater ar hyn o bryd.