Cynog Dafis Llun: Y Lolfa
Mae ffigwr amlwg ym myd gwleidyddiaeth Cymru am ddechrau symudiad o blaid cael pobol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus.

Dywed Cynog Dafis nad mudiad fydd Arddel, ond symudiad, a’i bwrpas fydd “mynd i’r afael â diffyg defnydd o’r Gymraeg,” yn arbennig mewn cyfarfodydd pan fo darpariaeth i ddefnyddio Cymraeg neu Saesneg.

“Mae’r hawl i ddefnyddio’r iaith a’r cyfleustra o wneud hynny wedi cynyddu ond nid yw parodrwydd pobol i ddefnyddio’r iaith yn gyhoeddus mewn cynadleddau a phwyllgorau wedi cynyddu,” meddai Cynog Dafis, a fu’n Aelod Seneddol ac yn Aelod Cynulliad, ac sy’n gefnogwr i fudiad iaith newydd Dyfodol i’r Gymraeg.

“Mae hyn yn fater o bryder ac rwy’n teimlo fod angen gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae eisiau gwthiad ar y defnydd o’r Gymraeg.”

Aelodau Cynulliad yn siomi

Dywedodd Cynog Dafis fod defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad yn peri pryder iddo.

“Rwyf wedi fy siomi’n fawr nad yw siaradwyr Cymraeg yn y Cynulliad yn ei defnyddio hi’n gyson. Mae hyn yn arwydd gwael iawn.

“Pan oeddwn i’n Aelod Cynulliad ni siaradais i fwy nag ychydig frawddegau o Saesneg ar lawr y Cynulliad.”

Dywedodd Cynog Dafis nad yw am ddatgelu mwy am Arddel ar hyn o bryd ond fe fydd yn datblygu ei syniadau yn narlith Cwmni Iaith am 3 o’r gloch brynhawn Iau, 9 Awst ar faes yr Eisteddfod.

Ddydd Llun cafodd mudiad pwyso Dyfodol yr Iaith ei sefydlu er mwyn lobïo o blaid y Gymraeg “mewn ffyrdd cyfansoddiadol.” Dywed Cynog Dafis fod yr hyn mae Arddel yn canolbwyntio arno yn wahanol i faes Dyfodol i’r Iaith ar hyn o bryd.