Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones, wedi beirniadu’r Gweinidog Iechyd yn dilyn y dystiolaeth a roddodd ger bron y pwyllgor iechyd y bore ma.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, nad oedd hi, na’i swyddogion ychwaith, wedi dylanwadu ar yr adroddiad allweddol am ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd.

“Yr hyn lwyddodd y Gweinidog Iechyd i wneud o flaen y pwyllgor y bore ma oedd i godi mwy o gwestiynau ynglŷn â pherthynas Llywodraeth Cymru ac awdur yr adroddiad,” meddai Elin Jones.

“Dyw’r anghysondebau heb gael eu hegluro ac mae mwy o anghysondebau wedi dod i’r amlwg.

“Roedd gan y Gweinidog Iechyd gyfle i dawelu’r pryderon ynghylch yr adroddiad, ond cafodd y cyfle yna ddim ei gymryd,” ychwanegodd.

“Oherwydd hynny, does gen i ddim hyder yng Ngweinidog Iechyd Llafur ac mi fydda i’n pleidleisio felly yn hwyrach heddiw.”

Mae’r Gweinidog Iechyd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei herbyn nes ymlaen heddiw.