Y stadiwm Olympaidd (llun gwneud)
Yng Nghaerdydd y bydd digwyddiad cynta’ Gêmau Olympaidd 2012, a hynny ddeuddydd cyn yr agoriad swyddogol.

Fe fydd gêm bêl-droed merched yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm am bedwar o’r gloch brynhawn Mercher, 25 Gorffennaf.

Fe gafodd holl amserlen y Gêmau ei chyhoeddi heddiw ac mae’n dangos na fydd seremoni agoriadol y Gêmau yn Llundain ddim yn digwydd am ddeuddydd ar ôl hynny.

Dyw hi ddim yn hysbys eto pa dimau fydd yn cymryd rhan ond fe fydd rhagor o gemau pêl-droed – rhai merched a dynion – yn cael eu cynnal yn y Stadiwm.

Er hynny, mae’r rhan fwya’ o ddigon o’r gweithgareddau yn nwyrain Llundain a de-ddwyrain Lloegr.