Lesley Griffiths
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, nad oedd hi, na’i swyddogion ychwaith, wedi dylanwadu ar yr adroddiad allweddol am ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd.

Roedd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau o flaen y pwyllgor iechyd ynglŷn â honiadau bod swyddogion y Llywodraeth wedi lliwio’r adroddiad.

Mae’r Gweinidog Iechyd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei herbyn nes ymlaen heddiw.

“Mae clinigwyr a swyddogion y Gwasanaeth Iechyd wedi’i ffieiddio fod trafodaethau dros wasanaeth iechyd y dyfodol yn cael ei amharu gan gwpl o eiriau mewn e-byst,” meddai Lesley Griffiths.

Awgrymodd y Gweinidog Iechyd fod yn rhaid i’r trafodaethau am hygrededd yr adroddiad ddod i ben.

“Fedra i ddim cadw golwg ar e-byst fy holl swyddogion, fedra i ddim,” meddai’r Gweinidog Iechyd. “Mae’n rhaid i mi ymddiried yn fy swyddogion, ac mi ydw i’n ymddiried ynddyn nhw.”

Tystiolaeth yr Athro Longley

Dywedodd awdur yr adroddiad, yr Athro Marcus Longley wrth  y pwyllgor iechyd bore ma nad oedd canfyddiadau’r adroddiad wedi cael eu gwneud yn fwy apelgar.

Gwrthododd yr Athro Longley honiadau ei fod wedi “cydgynllwynio” â gweision sifil.

Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Cynulliad, amddiffynnodd annibyniaeth y broses ar ôl honiadau ei fod wedi cysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd nad oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ceisio dylanwadu ar yr adroddiad.

“Hyd yn oed petai  nhw wedi ceisio gwneud hynny, byddwn i heb ei ganiatáu, ond doedd dim y ffasiwn ymgais beth bynnag,” meddai.

Ychwanegodd yr Athro Longley ei fod wedi e-bostio swyddogion i ofyn am wybodaeth nad oedd ar gael yn gyhoeddus.

Ond mynnodd fod rhai termau a oedd wedi eu defnyddio yn yr e-byst wedi cael eu cymryd allan o gyd-destun.