Yn dilyn cynulleidfaoedd llai na’r disgwyl yn ystod mis o sioeau, mae Clwyd Theatr Cymru mewn £56,000 o ddyled.

Roedd dyfodol y theatr o dan ystyriaeth neithiwr yn dilyn torfeydd siomedig.

Cyfaddefodd brif weithredwr Cyngor Sir y Fflint wrth bapur newydd The Leader y byddai colli’r theatr yn siom, ond gwadodd bod yr adeilad dan unrhyw risg.

Llynedd cafodd cynllun tair blynedd ei fabwysiadu a oedd yn gofyn i Theatr Cymru arbed £30,000 yn 2012/13, gyda gostyngiad o 3 y cant yn incwm y sefydliad gan Gyngor Sir y Fflint.

Ond mae Cyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â’r cyngor lleol, yn edrych ar ffyrdd o ailwampio adeilad y theatr.

Heblaw am Ganolfan Mileniwm Cymru, Clwyd Theatr Cymru sy’n darparu’r nifer fwyaf o weithgareddau amrywiol megis drama, cerddoriaeth, dawns, comedi a ffilm.