Damian Walford Davies
Yr Athro Damian Walford Davies yw cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru yn dilyn ymddeoliad cyn gyd-gadeirydd y sefydliad, Dr Harri Pritchard Jones a Dr John Pikoulis.

Yn ymuno a’r Athro Damian Davies ar y bwrdd fydd William Ayot, Catrin Gerallt, Bethan Hughes, Angharad Mair, Sioned Williams ac Angharad Wynne.

Sefydlwyd Llenyddiaeth Cymru ym mis Ebrill 2011 fel modd o ddatblygu a hybu gweithgareddau llenyddol ar ran Cyngor y Celfyddydau.