Cam-drin plant (Getty Images - wedi ei greu gan fodelau)
Mae ystadegau newydd yn awgrymu bod chwarter pobol ifanc gwledydd Prydain ac un o bob pump o blant yn eu harddegau wedi cael eu cam-drin.
Ond mae adroddiad gan y gymdeithas warchod plant, yr NSPCC, yn dweud bod pethau wedi gwella ers arolwg tebyg ddeng mlynedd yn ôl.
Er hynny, maen nhw’n dweud bod plant sydd wedi eu cam-drin i’w cael ym mhob un ysgol uwchradd yng Nghymru a bod angen i athrawon gael mwy o hyfforddiant i helpu adnabod y broblem a helpu i’w datrys.
Yr adroddiad
Mae’r adroddiad yn tynnu ar dystiolaeth gan tua 4,000 o blant yn eu harddegau ac oedolion ifanc, gan gymharu ffigurau 2009 gyda rhai tebyg yn 1998-9.
- Roedd chwarter yr oedolion ifanc rhwng 18 a 24 yn dweud eu bod wedi cael eu cam-drin yn ddrwg yn gorfforol neu rywiol yn ystod eu plentyndod neu wedi eu hesgeuluso.
- Roedd un o bob pump o’r bobol ifanc rhwng 11 ac 17 yn dweud yr un peth.
- Roedd 7% o’r oedolion ifanc wedi cael eu gorfodi i gael rhyw cyn bod yn 16 oed, a 5% o’r rhai yn eu harddegau.
- Ond roedd achosion o drais, gweiddi cyson ac ymosod rhywiol gan oedolion wedi lleihau ers y ffigurau ddeng mlynedd yn ôl.
Difrod mawr
Yn ôl pennaeth gwasanaeth yr NSPCC yng Nghymru, Des Mannion, roedd agweddau wedi gwella a gwaith gan gyrff fel Llywodraeth y Cynulliad wedi cael effaith.
Ond roedd straeon unigol rhai o’r bobol ifanc yn dangos y difrod mawr y mae cam-drin yn gallu ei achosi.
Yn ôl yr NSPCC, mae pobol ifanc sy’n dioddef o gam-drin gwael naw gwaith yn fwy tebyg o geisio lladd eu hunain na phobol ifanc eraill a phum gwaith yn fwy tebyg o’u niweidio eu hunain.
Mae yna lawer o blant yn methu â chael y cymorth sydd ei angen, meddai’r elusen, sy’n dweud bod bron 2,300 o blant yng Nghymru ar restrau ‘mewn peryg’ yr awdurdodau lleol.
Meddai’r NSPCC
“Mae lefelau ac effaith cam-drin plant yn golygu bod angen symudiad sylweddol tuag at ymyrryd ynghynt,” meddai Des Mannion.
“Pan fydd plant yn methu â chael eu hamddiffyn a’u cefnogi pan fyddan nhw fwya’ o angen hynny, fe allan nhw fod yn agored i niwed corfforol neu feddyliol parhaus a rhagor o gam-drin.
“Mae’n debyg bod plant sy’n cael eu cam-drin yn wael ym mhob ysgol uwchradd trwy Gymru. Bydd rhai’n wynebu cam-drin ac esgeulustod yn blant ysgol; bydd eraill wedi diodde’ hynny yn ystod eu plentyndod cynnar.
“Mae gan athrawon rôl allweddol i helpu’r plant hyn, gan mai ysgol yn aml yw’r prif fan diogel i blant y tu allan i’w cartrefi. Rhaid i athrawon gael cefnogaeth i adnabod arwyddion posib o gam-drin ac esgeulustod, awydd i’w lladd eu hunain.
“Fe allan nhw weithio gyda gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd ac eraill i rwystro’r niwed tymor hir sy’n cael ei achosi gan gam-drin plant.”