Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i ddigwyddiad yn y ddalfa yn Abertawe, ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod wedi llewygu yn ei gell.

Roedd swyddogion y carchar i fod i gadw llygad ar y dyn bob hanner awr tra roedd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Abertawe ar 10 Gorffennaf. Roedd swyddog carchar, oedd yn cael ei gyflogi gan gwmni G4S,  wedi dweud mewn cofnodion bod staff wedi bod yn cadw llygad ar y dyn, er nad oes tystiolaeth o hynny ar gamerâu CCTV.
Dywedodd Comisiynydd IPCC Cymru, Tom Davies: “Yn ffodus, cafodd y dyn hwn ei ddarganfod mewn pryd ac mae e bellach wedi gwella. Roedd staff meddygol wedi cynghori y dylid ymweld â’r dyn hwn bob 30 munud oherwydd pryderon ynghylch ei iechyd.

“Mae llawer o waith wedi ei wneud a pholisïau wedi eu rhoi yn eu lle gyda’r nod o wneud y ddalfa’n fwy diogel ac fe fydd ein hymchwiliad yn edrych ar yr hyn ddigwyddodd yn yr achos hwn a pha hyfforddiant penodol sy’n cael ei roi i staff y ddalfa.”

Mae’r aelod o staff, a oedd wedi ei gyflogi gan G4S ar gontract allanol, bellach wedi ymddiswyddo.