Fe fu aelodau o’r NFU yn protestio tu allan i archfarchnad Morrison’s yn y Trallwng heddiw, i ddangos eu gwrthwynebiad i brisiau llaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru fod y protestwyr yno “i dynnu sylw at bris llaeth am fod pobl yn dueddol o’i gymryd yn ganiataol gan ei fod yn anghenraid.”

“Rydym ni yma heddiw oherwydd bod archfarchnadoedd ddim yn sicrhau fod ffermwyr llaeth yn cael pris teg am gyflenwi llaeth,” meddai Jonathon Wilkinson o NFU Cymru.

Roedd protestwyr yno i ddarparu taflenni i siopwyr yn egluro pam eu bod yn teimlo nad yw rhai adwerthwyr, gan gynnwys Morrison’s,  yn cynorthwyo ffermwyr llaeth yn ddigonol.

Bu’r Aelod Seneddol Glyn Davies yn cyfarfod â swyddogion NFU Cymru yn gynharach heddiw.

Dywedodd Glyn Davies wrth golwg360 fod “cyfarfod llwyddiannus iawn” wedi bod y bore ma.

Bydd yr Aelod Seneddol Ceidwadol yn arwain trafodaeth ar y mater yn San Steffan yfory.

“Fi ofynnodd am y cyfarfod y bore ma,” meddai Glyn Davies. “Maen nhw’n gwneud job wych o godi proffil y peth yn lleol a fy swydd i yw gwneud hynny yn San Steffan.”

Mae’r gostyngiad o 2c y litr o fis Awst yn dilyn gostyngiad i nifer o ffermwyr yn y gwanwyn yn peryglu’r diwydiant medd yr undebau amaeth, ac mae’r NFU yn rhybuddio bod cynhyrchu litr o laeth bellach yn costio mwy i’r ffermwyr na’r hyn maen nhw’n ei gael am eu cynnyrch.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae nifer y ffermwyr llaeth wedi gostwng 800 mewn pum mlynedd.