Fe fydd plismyn o dde Cymru ymhlith naw o heddluoedd sy’n cael eu hanfon i lenwi’r bylchau yn y trefniadau diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May y byddai plismyn o naw o heddluoedd yn cael eu defnyddio fel swyddogion diogelwch yn ogystal â’r 3,500 o filwyr ychwanegol, ar ôl i’r cwmni G4S fethu â chyflenwi digon o swyddogion ar gyfer y Gemau yn Llundain.

Mae’r heddluoedd eraill yn cynnwys Dorset, Surrey, Sir Hertford, Northumbria, Strathclyde, West Midlands, heddlu Thames Valley, a Manceinion.

Gyda llai na phythefnos i fynd cyn y seremoni agoriadol, mae gweinidogion yn mynnu y bydd yn Gemau yn ddiogel.

‘Anhrefn llwyr’

Dywedodd cadeirydd Ffederasiwn Heddlu’r West Midlands, Ian Edwards bod y trefniadau yn “anhrefn llwyr” a bod yr heddlu wedi gorfod darparu 150 o swyddogion y dydd i warchod gwesty yn Sir Warwick lle mae pêl-droedwyr yn aros.

Mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r heddlu ddod o hyd i 200 o swyddogion ychwanegol ar gyfer stadiwm dinas Coventry, yn ogystal â Birmingham os oes diffyg yno hefyd, meddai Ian Edwards.

“Mae’n anrhefn, anrhefn lwyr. Mae cymunedau yn dioddef gan fod cwmni preifat wedi methu â chyflenwi’r cytundeb.”

Yn ôl Clive Chamberlain, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Dorset, mae’r sefyllfa yn “ffiasgo” ac yn peri pryder.

“Fy mhryder mwya i yw bod G4S yn recriwtio pobl ar frys er mwyn cael cymaint o bobl i’r sefydliad ag y gallen nhw. Pythefnos cyn y Gemau, mi fydd na gannoedd ar filoedd o bobl sydd angen cael eu harchwilion drwyadl, a’r heddlu fydd yn gorfod gwneud hynny.

“Pa hyfforddiant fyddan nhw wedi ei gael cyn iddyn nhw ddechrau? Mae’n bryderus iawn, iawn.”

Swydd yn y fantol

Fe fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond yn ymateb i gwestiynau Aelodau Seneddol prynhawn ma.

Fe fydd prif weithredwr G4S, Nick Buckles, yn ymddangos gerbron y pwyllgor Materion Cartref yfory ac mae wedi cyfaddef efallai y bydd yn cael ei orfodi i roi’r gorau i’w swydd, sy’n talu cyflog o £830,000 y flwyddyn. Dywed y cwmni y bydd yn gwneud colled o hyd at £50 miliwn ar y cytundeb.

Roedd cyfranddaliadau’r cwmni wedi gostwng 10% heddiw o ganlyniad i’r ffrae.

Yn y cyfamser mae disgwyl i’r cystadleuwyr cyntaf gyrraedd y Pentref Athletwyr heddiw.