Dr Simon Brooks
Mae mudiad newydd sy’n ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg yn cael ei lansio heddiw.

Mae Dyfodol yr Iaith yn gobeithio datblygu cysylltiadau gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill gan ddefnyddio dulliau gwahanol i Gymdeithas yr Iaith.

Mae’r mudiad eisoes wedi denu cefnogaeth nifer o unigolion amlwg mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yr Athro Richard Wyn Jones, y cyn Aelodau Seneddol Cynog Dafis ac Adam Price, yr hanesydd Hywel Williams a’r ddarlledwraig Angharad Mair.

Fe fydd gwefan yn cael ei lansio heddiw a dywed Dyfodol i’r Iaith bod ’na alw mawr am fudiad o’r fath i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym mhob maes.

Fe fydd y mudiad yn “sefydliad proffesiynol”, annibynnol, gyda staff cyflogedig, er mwyn hyrwyddo’r iaith drwy “ddulliau cyfansoddiadol”.

Aelod arall o’r mudiad yw Dr Simon Brooks, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Dywedodd na fydd y mudiad newydd yn torri’r gyfraith ac y byddai’r mudiad yn gweithredu drwy ddulliau cyfansoddiadol, yn wahanol i Gymdeithas yr Iaith.