Mae’r Aelod Cynulliad Simon Thomas wedi galw ar y Llywodraeth Cymru i ddangos Llawsgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn y Senedd.

Mae’r Aelod Canolbarth a Gorllewin wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad Rosemary Butler ac Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru,  i ofyn am drafodaethau er mwyn arddangos y Llawysgrif yn y Senedd.

Mae Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn dod yn ôl i Gymru ar ôl i Lyfrgell Genedlaethol Cymru wneud cynnig llwyddiannus amdani mewn ocsiwn yn Sotheby’s yn Llundain, gyda chymorth ariannol oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Cafodd y llawysgrif ganoloesol prin o’r 14eg ganrif ei gwerthu am £541,250 ac mae’n cael ei ystyried yn un o drysorau diwylliannol Cymru. Mae’r gyfrol memrwn fechan yn enghraifft gynnar o destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac fe fyddai wedi cael ei ddefnyddio gan farnwr crwydrol yn Ne Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n debyg fod y ddogfen wedi ei chludo i America gan ymfudwyr o Gymru yn y ddeunawfed ganrif.

“Hoffwn weld  y llawysgrif yma yn y Senedd,” meddai Simon Thomas.

“Yn ogystal â bod yn llyfryn sydd yn werthfawr yn ddiwylliannol, yn ariannol ac yn hanesyddol mae Pwyllgor Cyfansoddiadol y Cynulliad yn ymchwilio i awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y mater. Byddai’n amserol ac yn berthnasol iawn, felly, i gael y llyfryn hwn oedd mor bwysig yn ei ddydd, ac yn amlwg yn cael defnydd, yn y Senedd am gyfnod byr.

“Mae’n debyg y bydd y llawysgrif yn rhan o arddangosfa deithiol a byddai’n dda o beth i’r llawysgrif ddod i’r Senedd. Hoffwn ddiolch i’r Llyfrgell Genedlaethol a’u llongyfarch am sicrhau bod llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn dychwelyd i Gymru.”