Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio rhieni a phlant am beryglon y cyffur Mephedrone sy’n cael ei alw’n ‘meow, meow’ ar lafar gwlad.

Mae’r cyffur anghyfreithlon dosbarth B yn gallu gwneud i unigolyn deimlo ar ben y byd ac yn siaradus ond ar ôl ei ddefnyddio am gyfnod bydd y defnyddiwr wedyn yn troi yn bryderus iawn ac yn paranoid.

“Mae yna sgil-effeithiau difrifol iawn o ddefnyddio meow, meow,” medd y Prif Arolygydd Richard Lewis. “Gall rhywun gael trawiad ar y galon, chwysu a pharanoia a gall defnyddwyr fod yn emosiynol ac yn ymosodol.”

Ychwanegodd bod defnyddwyr y datblygu arogl arbennig sy’n debyg i ddwr cath. Bydd yr arogl ar eu chwys, gwallt a’u dillad. Mae nhw hefyd yn cael trafferth cysgu ac yn colli unrhyw awch am fwyd.

Mae cael eich dal efo meow meow yn eich meddiant yn golgyu hyd at 5 mlynedd yn y carchar.

Gofynnodd yr heddlu i unrhyw un sy’n gwybod rhywbeth am y deunydd o’r cyffur i gysylltu efo nhw.