Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae dyn yn gwella o anaf i’w goes heddiw ar ôl i beiriant palu syrthio ugain troedfedd i lawr aglawdd ger Rhosllannerchrugog brynhawn ddoe.

Bu diffoddwyr tân wrthi am awr yn rhyddhau’r dyn ar ôl i’r peiriant syrthio ar ei ben mewn llecyn gwledig yn Bronwylfa toc wedi 3 o’r gloch y prynhawn.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi anfon injan dân, uned achub a thîm rhaffau yno i’w ryddhau. Ychwanegodd bod yn rhaid gwneud y peiriant palu’n ddiogel cyn symud y gwr, gafodd driniaeth yn y fan a’r lle wedyn gan barafeddygon.

Doedd yr anaf i’w goes dde ddim yn ddifrifol ond aethpwyd ag ef i Ysbyty Maelor Wrecsam i gael rhagor o driniaeth.