Mae’r glaw trwm achosodd orlifoedd mewn sawl ardal yng ngogledd Powys gyda’r nos neithiwr bellach wedi cilio ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn dweud eu bod wedi gorffen delio â phob achos o lifogydd achoswyd gan y storm.

Ardaloedd Y Drenewydd, Trefaldwyn a Threfyclo yn hen siroedd Maldwyn a Maesyfed gafodd eu heffeithio fwyaf a bu’n rhaid galw am ddiffoddwyr o’r Drenewydd, Y Trallwm, Llanfair Caereinion a Threfyclo i ddelio efo pedwar digwyddiad tua 8.30 neithiwr wedi i’r storm fod ar ei gwaethaf tua 6 o’r gloch.

Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybydd melyn o law trwm ar gyfer nos Wener gan broffwydo y buasai tua 30mm o law yn syrthio mewn cyfnod byr iawn. Fe wnaeth yr holl ddwr achosi i ddraeniau orlifo a chreu’r llifogydd.

Mae’r glaw bellach yn effeithio ar dde -ddwyrain Lloegr, canolbarth Lloegr a dwyrain Anglia ac mae Asiantaeth yr Amglchedd yn dweud y bydd gwerth mis o law yn syrthio yn yr ardaloedd yma mewn ychydig oriau.

Yng Nghymru, fe fydd yn gymylog gyda ambell gawod mewn mannau heddiw a bydd rhai o’r cawodydd yma yn drwm. Bydd sawl ardal yn enwedig yn y gorllewin yn braf ac yn heulog. Fe fydd yfory yn well diwrnod o lawer gyda llai o gawodydd a chyfnodau sych a heulog ond gall gymylu at yr hwyr.