Mae trên wedi dod oddi ar y cledrau ar ôl taro yn erbyn gwartheg yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i safle’r ddamwain ger Treletert tua 7pm heno.

Roedd tua 30 o deithwyr ar y trên ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Dywedodd llefarydd ar y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi anfon pedwar injan dân i’r safle – dau o Hwlffordd ac un o Aberdaugleddau ac un arall o Abergwaun.

Mae’n debyg bod y trên yn teithio i Wdig pan ddaeth oddi ar y cledrau yn Welsh Hook – ardal rhwng Treletert a Chas-blaidd.

Yn ogystal â diffoddwyr tân, cafodd yr heddlu a milfeddyg eu hanfon i’r safle. Dywedodd National Rail bod y ddamwain wedi amharu ar wasanaethau trên yn ardal harbwr Abergwaun ac y byddai gwasanaeth bws ar gael rhwng Heol Clarbeston a Harbwr Abergwaun.