Mae Undeb Genedlaethol Ffermwyr Cymru (NFU) wedi croesawu penderfyniad yr Uchel Lys heddiw i barhau gyda pholisi o ddifa moch daear.

Croesawodd NFU Cymru’r penderfyniad, ond maen nhw’n rhwystredig nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un canllawiau llym ac sydd yn Lloegr.

Mae Ymddiriedolaeth y Moch Daear wedi colli’r achos yn yr Uchel Lys i atal difa miloedd o foch daear er mwyn mynd i’r afael â’r diciâu (TB) mewn gwartheg.

Mae’r NFU yn ddig nad ydi’r un polisi yn cael ei weithredu yng ngogledd Sir Benfro er mwyn cael gwared â moch daear sy’n dioddef o’r afiechyd.

Dywedodd Stephen James, Dirprwy Lywydd NFU Cymru, “Rwy’n credu nad oes rheswm cyfreithiol pam gall ein Gweinidog (Amgylcheddol) gyfyngu ein ffermwyr rhag defnyddio’r un ddeddf i daclo’r afiechyd.

“Rydym ni’n teimlo fod y penderfyniad a gymerodd ein Gweinidog ym mis Mawrth i ddilyn polisi o frechu moch daear yn unig, yn un sy’n seiliedig ar fygythiadau cyfreithiol yn hytrach nag ar sail wyddonol,” ychwanegodd.

Dywedodd y barnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw fod cais cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth wedi methu ar bob sail gan wrthod diddymu penderfyniad Llywodraeth San Steffan y llynedd i ganiatáu ffermwyr a thirfeddianwyr i ddifa moch daear.

Mewn llythyr i’r Gweinidog Amgylcheddol, John Griffiths, mynnodd NFU Cymru eglurhad am yr amodau mae ffermwyr yng Nghymru angen eu cyrraedd er mwyn derbyn trwydded i reoli moch daear rhag lledaenu’r diciâu.