Mae Heddlu Merthyr yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn oriau man y bore ddydd Mercher.

Cafodd swyddogion eu galw i gartref yn Rhodfa Acacia ym Merthyr toc wedi hanner nos ar ôl i ddyn 23 mlwydd oed gael ei drywanu.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty’r Tywysog Charles.

Mae dyn, 34, o Ferthyr wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu a nhw ar 01685 724272 neu’n ddienw ar 0800 555 111.