Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud fod angen “dadl” ynglŷn â nifer y cymwysterau Lefel-A sy’n cael eu dysgu yng Nghymru.

Daeth i’r amlwg ddoe fod y Gweinidog Addysg yn ystyried cwtogi nifer y cyrsiau Lefel-A sydd ar gael i ddisgyblion y wlad.

Dylid rhoi’r pwyslais yn ôl ar y cymwysterau pwysicaf gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth, ac ieithoedd, meddai.

Mae undeb athrawon NASUWT Cymru wedi beirniadu’r sylwadau gan ddweud ei fod yn dro pedol gan y Gweinidog Addysg.

Mae Leighton Andrews wedi bod yn gwthio am ddewis ehangach o gymwysterau ers iddo ddechrau yn ei swydd, meddai’r undeb.

‘Canolbwyntio’

Wrth siarad mewn cynhadledd addysg yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd Leighton Andrews bod angen “mwy o arweiniad” ar bobol ifanc.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae yna gynnydd mawr wedi bod yn nifer y pynciau Lefel-A sydd ar gael i’w dilyn,” meddai.

“Ond rhaid ystyried a ydyn ni’n rhoi digon o arweiniad i bobol ifanc ynglŷn â’r pynciau fydd eu hangen arnyn nhw.

“Rydyn ni’n gwybod fod prifysgolion eisiau i ni ganolbwyntio ar rai pynciau penodol. Rydyn ni hefyd yn gwybod fod rhai cymwysterau nad ydi cyflogwyr eu heisiau.

“Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn canolbwyntio ar y cymwysterau pwysicaf.

“Dydw i ddim am ddod i benderfyniad yn syth, ond rydw i’n credu fod angen dadl genedlaethol am y peth.”