Eisteddfod yr Urdd 2010
Mae’r ddadl ynglŷn ag alcohol ar faes yr Urdd wedi ail-gynnau ar ôl i drefnwyr yr ŵyl gadarnhau y bydd diodydd meddwol yn cael eu gwerthu ar y maes eto eleni.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i drefnwyr Eisteddfod yr Urdd benderfynu gwerthu alcohol ar y maes.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi penderfynu parhau i werthu alcohol i bobol dros 21 oed ar ôl denu cwsmeriaid yn Llanerchaeron y llynedd.

Ond yn ôl ymgyrchwr yn erbyn gwerthu alcohol ar y maes, “dyw’r Urdd ac alcohol ddim yn cymysgu”.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Erail ei fod yn erbyn gwerthu alcohol ar y maes, er nad oedd unrhyw sgil effeithiau amlwg yn Llanerchaeron.

“Dydi plant ac alcohol ddim yn cymysgu. Dim ond mater o amser yw hi nes y bydda i’n cael fy mhrofi’n gywir,” meddai Wynford Ellis Owen wrth Golwg360.

“Nid camfihafio a meddwi sy’n fy mhoeni i – ond y neges mae gwerthu alcohol yn ei roi i blant a phobl ifanc. Mae’n normaleiddio alcohol.

“Dydw i ddim yn credu fod y rhan fwyaf o rieni eisiau gweld gwerthu alcohol ar y maes. Mae’n annoeth ac yn esiampl drwg i bobol ifanc.

“Does dim rhaid i’r Urdd fod wedi mynd lawr y ffordd hon. Dydw i ddim am newid fy meddwl.”

‘Y bwyty yn parhau’

“Cynhaliwyd arbrawf yn Eisteddfod yr Urdd, Ceredigion 2010 y llynedd o sefydlu Bwyty ar y Maes,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

“Roedd y Bwyty yn cynnig bwydlen yn adlewyrchu’r gorau o gynnyrch Cymru ac fel rhan o’r arlwy, yr oedd modd i unigolion dros 21 oed brynu gwin, cwrw neu seidr i gyd-fynd a’u bwyd.

“Defnyddiwyd sawl dull i asesu’r arbrawf a phrofwyd bod marchnad i’r gwasanaeth gan fod eisteddfodwyr yn defnyddio’r Bwyty ac yn mwynhau’r profiad.

“Gyda’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr wythnos, lluniwyd adroddiad a gafodd ei ystyried gan Fwrdd Eisteddfod yr Urdd a Chyngor yr Urdd ar 10 Gorffennaf 2010.  Penderfynodd Cyngor yr Urdd y bydd y Bwyty yn parhau.”