Heddiw, fe fu cannoedd o ffermwyr o Gymru yn ymuno â 2,500 o ffermwyr yn Llundain  i brotestio’n erbyn cwymp ym mhrisiau llaeth.

Mae’r gostyngiad o 2c y litr o fis Awst yn dilyn gostyngiad i nifer o ffermwyr yn y gwanwyn, ac mae’r NFU yn rhybuddio bod cynhyrchu litr o laeth bellach yn costio mwy i’r ffermwyr na’r hyn maen nhw’n ei gael am eu cynnyrch.

Yn ôl yr undebau amaeth, bydd y gostyngiad yn golygu y bydd nifer yn gadael y diwydiant ac y bydd pris llaeth i’r cwsmer yn cynyddu yn y tymor hir.

Mewn cynhadledd yn Westminster, fe rybuddiodd dirprwy lywydd undeb yr NFU, Meurig Raymond, bod ffermwyr llaeth wedi cael eu “gwthio i ymyl y dibyn” gan y toriadau diweddaraf.

Mae wedi galw am wyrdroi’r penderfyniad erbyn 1 Awst.


Alun Davies
‘Dylwn i fod wedi mynd’ medd Alun Davies

Yn y cyfamser mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth  yn y Cynulliad, Alun Davies wedi cyfaddef y dylai fod wedi mynd i’r brotest yn Llundain heddiw.

Dywedodd y byddai wedi mynd oni bai fod ganddo “ddyletswyddau yn y siambr” a oedd yn ei atal rhag mynd.

Ychwanegodd fod Ken Skates wedi mynd fel cynrychiolydd Llafur yn ei le.

“Dylen ni fod wedi mynd. Does dim dwywaith am hynny. Fe fyswn i wedi ond mae gen i ddyletswyddau yn y siambr fan hyn i ateb cwestiynau felly dyw e ddim yn bosib i fi fynd.”

Pan gafodd Alun Davies ei holi am bris llaeth, gwrthododd feirniadu’r gweinidog amaeth  yn San Steffan, Jim Paice am nad oedd yn gwybod beth yw pris peint o laeth.

“Dw i ddim yn mynd i wneud unrhyw sylw am Jim.

“Ond mae gen i barch mawr at Jim a’r ffordd mae e wedi gwneud ei swydd fel gweinidog amaeth yn Lloegr. Dw i ddim eisiau gwneud unrhyw feirniadaeth bersonol amdano fe.

“A’r tro diwethaf i fi brynu llaeth, roedd e’n 49c y peint ac yn 89c am ddau beint. A dw i hefyd yn sylweddoli bod Tesco ar hyn o bryd yn gwerthu pedwar peint am £1.70, dwi’n meddwl.”