Bu farw Peter Lewis ym mis Ebrill
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 68 oed yng Nghaerdydd wedi rhyddau delweddau CCTV o lygad-dystion posib ac yn apelio arnyn nhw i gysylltu â’r heddlu.

Bu farw Peter Lewis yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn, 28 Ebrill yn dilyn digwyddiad yng nghyntedd ei fflat yn Heol Claude, Y Rhath.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ac yn rhoi cefnogaeth i deulu Peter Lewis. Maen nhw wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Ymholiadau

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan ddau berson oedd yn nhafarn y Croft, yn Stryd Croft, y Rhath nos Wener, 27 Ebrill. Mae ymholiadau yn yr ardal i geisio adnabod y dyn a’r ddynes wedi bod yn ofer hyd yn hyn.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lee Porter: “Rydym yn awyddus i ddod o hyd i’r dyn a’r ddynes gan ein bod yn credu y gallen nhw fod â gwybodaeth a all helpu yn ein hymchwiliad.

“Rydw i am eu sicrhau nhw nad ydyn nhw’n cael eu hamau o unrhyw drosedd ac fe fyddan nhw’n cael eu trin fel llygad-dystion yn unig – mae’n bwysig iawn eu bod yn cysylltu â ni”.

Ym mis Mehefin, roedd yr heddlu wedi apelio ar lygad-dyst gafodd ei weld yn Stryd Siarl rhwng 3.20yb 4.30yb ar 28 Ebrill, i gysylltu â nhw. Mae’r person yna bellach wedi cael ei adnabod.

Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Canolog Caerdydd ar 02920 571530 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.