Cafodd dwy ddynes eu hanafu mewn tân mewn cartref i’r henoed ym Mae Colwyn  yn oriau mân y bore yma.

Cafodd diffoddwyr tân o Fae Colwyn, Conwy ac Abergele eu galw i’r cartref ar Heol Ellesmere ym Mae Colwyn am 6.09am.

Cafodd un ddynes oedrannus ei chludo i’r ysbyty, a chafodd un arall driniaeth ar y pryd.

Cafodd to’r adeilad ei ddifrodi, ac roedd mwg wedi achosi difrod i’r llawr cyntaf a’r ail lawr.

Mae’r ymchwiliad i’r tân eisoes wedi dechrau.