Fe fydd gostwng y pris sy’n cael ei dalu i ffermwyr llaeth yn peryglu’r diwydiant ac yn cynyddu’r prisiau i gwsmeriaid yn y tymor hir, yn ôl undebau amaeth.

Mae Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) ac undebau amaeth eraill yn cynnal cyfarfod yn Llundain heddiw i brotestio’n erbyn cwymp ym mhrisiau llaeth a gafodd eu cyhoeddi gan dri o’r prif gwmnïau gwerthu llaeth. Arla Foods UK, Robert Wiseman Dairies a Dairy Crest.

Mae’r gostyngiad o 2c y litr o fis Awst yn dilyn gostyngiad i nifer o ffermwyr yn y gwanwyn, ac mae’r NFU yn rhybuddio bod cynhyrchu litr o laeth bellach yn costio mwy i’r ffermwyr na’r hyn maen nhw’n ei gael am eu cynnyrch.

Fe fydd cynrychiolwyr ffermwyr Cymru’n rhan o’r cyfarfod heddiw lle byddan nhw’n cwrdd â Gweinidog Amaeth Llywodraeth Prydain i leisio eu pryderon.

‘Sefyll gyda’n gilydd’

“Mae’n hanfodol fod y diwydiant llaeth yn sefyll gyda’i gilydd ar yr amser allweddol yma,” meddai Dei Davies, Treffynnon, llefarydd Undeb Amaethwyr Cymru yn y maes llaeth.

Yn ogystal â’r toriadau yn y prisiau, mae costau porthiant i anifeiliaid wedi codi, meddai, a’r rheiny bellach yn uwch nag erioed o’r blaen.

“Bydd y digwyddiad yn Llundain yn rhoi cyfle i’r diwydiant dynnu sylw’r cyhoedd a’r llywodraeth at fygythiad y toriadau hyn i ddyfodol tymor hir y diwydiant llaeth yng Nghymru.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae nifer y ffermwyr llaeth wedi gostwng 800 mewn pum mlynedd.