Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r BBC o “fradychu pobol Cymru” dros fater S4C ac yn bwriadu protestio yn eu herbyn unwaith eto’r penwythnos yma.

Bydd protest yn erbyn tocio cyllideb S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin am 10am dydd Sadwrn.

Fe fydd Dafydd Iwan a’r Aelod Cynulliad Nerys Evans yn cymryd rhan yn y brotest  y tu allan i adeilad y BBC ar stryd Priordy Caerfyrddin. Bydd bandiau ifanc lleol hefyd yn diddanu’r dorf.

Dyma’r ail waith i’r Gymdeithas dargedu’r BBC yn benodol, ar ôl cynnal protest yn swyddfeydd y gorfforaeth yn Llandaf, Caerdydd, ddiwedd mis Ionawr.

Mae’r BBC yn dweud mai penderfyniad Llywodraeth San Steffan oedd newid trefniadau ariannol S4C, ond mae’r Gymdeithas yn anghytuno.

“Mae’r BBC wedi bradychu pobl Cymru trwy gydweithio gyda Llywodraeth Llundain i gymryd drosodd y sianel,” meddai Sioned Elin, cadeirydd rhanbarth Sir Gar y Gymdeithas.

“Mae angen i bawb ddeffro i sylweddoli y gallai S4C, fel rŷn ni’n ei ’nabod, ddod i ben erbyn 2015.

“O hynny ymlaen fe fydd S4C yn ddim byd ond yn isadran o’r BBC yn gorfod cystadlu am adnoddau. Rhaid i ni atal hyn rhag digwydd.

“Galwn ar rieni ifanc sy’n gwerthfawrogi rhaglenni Cyw a Stwnsh i blant, galwn ar gefnogwyr rygbi y mae S4C wedi rhoi cymaint o gymorth ariannol iddynt, galwn ar bobl ifanc sydd eisiau gweld dyfodol i’w sianel genedlaethol nhw.”

Targedu’r Ceidwadwyr

Yn dilyn y brotest tu allan i’r BBC fe fydd bws yn casglu nifer o’r protestwyr ac yn eu cludo at swyddfa’r Aelod Seneddol Ceidwadol Simon Hart yn Hendy Gwyn ar Daf.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ei gyhuddo o “ddweud celwydd” am faint y toriadau i gyllideb S4C mewn cymhariaeth a llefydd eraill o fewn yr Adran Ddiwylliant.

“Yn hytrach na cheisio rhoi ‘spin’ a chamarwain pobl ynghylch maint y toriadau i gyllideb y sianel fe ddylai gwleidyddion megis Simon Hart weithio ar sicrhau fod S4C yn cael ei thynnu allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus,” meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.