Mae 27 o ffatrioedd Remploy yn y DU, gan gynnwys pump yng Nghymru,  i gau.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud nad oes modd ariannu’r ffatrioedd, sy’n cyflogi pobl ag anableddau, ac y gellir gwneud defnydd mwy effeithiol o’r gyllideb o £320 miliwn ar gyfer pobl ag anableddau.

Cyhoeddodd Maria Miller, y gweinidog dros bobl ag anableddau, y byddai ymgynghoriad ar naw ffatri arall Remploy.

Mae undebau wedi dweud y bydd y ffatrïoedd yn cau rhwng Awst a Rhagfyr eleni. Ymhlith y pump sydd i gau yng Nghymru mae ffatrioedd yn Aberdar, Abertileri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam. Mae’r Llywodraeth yn gwahodd ceisiadau am ffatrioedd Penybont-ar-Ogwr a Chroespenmaen.

Mae disgwyl i weithwyr Remploy gynnal streiciau mewn 54 ffatri ar draws y wlad i brotestio yn erbyn cyhoeddiad blaenorol gan y Llywodraeth ynghylch cau’r safleoedd.

Dywedodd undeb GMB y byddai’r streiciau’n parhau er gwaetha’r cyhoeddiad diweddaraf.

Dywedodd Maria Miller fod gweithwyr Remploy wedi cael clywed y prynhawn yma.

“Mae hyn yn newyddion anodd. Rydym yn gwneud popeth fedrwn ni i sicrhau y bydd gweithwyr Remploy yn derbyn pecyn cynhwysfawr ac arweiniad i symud o gyflogaeth sy’n cael ei chysgodi gan arian y Llywodraeth i swyddi prif ffrwd.”

Cyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Mawrth y byddai ffatrïoedd yn cau, gyda hyd at 1,700 o swyddi yn y fantol.

Cafodd ffatrïoedd Remploy eu hagor 66 o flynyddoedd yn ôl fel rhan o’r Wladwriaeth Les.

‘Arian ar gyfer cynlluniau eraill’

Mae’r Llywodraeth yn dadlau y dylai’r arian sy’n cael ei arbed o gau’r safleoedd fynd tuag at gynlluniau eraill er mwyn helpu pobl ag anableddau i ddod o hyd i swyddi newydd.

Ychwanegodd Miller: “Mae ein penderfyniad wedi’i arwain gan sefydliadau pobl ag anableddau a phobl ag anableddau eu hunain, ac mae nifer wedi croesawu’r camau i roi terfyn ar gyflogaeth ar wahân a sefydlwyd cyn y rhyfel.”

Mae Miller yn dadlau nad yw cyflogaeth sy’n cael ei hariannu’n golygu cydraddoldeb i bobl ag anableddau.

Dywedodd swyddog cenedlaethol undeb GMB, Phil Davies: “Mae GMB yn grac iawn gyda chadarnhad y llywodraeth heddiw ei bod yn cau 27 ffatri Remploy erbyn mis Rhagfyr gyda’r gweddill i ddilyn yn fuan wedyn.

“Mae cau’r ffatrïoedd hyn sy’n cyflogi pobl ag anableddau yn yr hinsawdd economaidd bresennol yn ddedfryd oes o ddiweithdra a thlodi.”

Mae disgwyl i streiciau gael eu cynnal ar Orffennaf 19 a 26.

Galw am ddatganoli cyllideb Remploy

Mae llefarydd Polisi Cymdeithasol Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS, wedi galw unwaith eto am ddatganoli cyllideb Remploy.

Dywedodd Hywel Williams: “Mae nifer o weithwyr wedi rhoi eu bywydau i weithio yn Remploy ac maen nhw nawr yn wynebu diweithdra mewn ardaloedd o Gymru ble fo hynny eisoes yn broblem enfawr.

“Mae’r Gweinidog wedi galw Remploy yn ‘segregated employment’ ar sawl achlysur, yn hytrach na chydnabod ei fod yn waith sy’n derbyn cefnogaeth.

“Mae gennym nifer o fentrau hynod lwyddiannus yng Nghymru sy’n cael eu cefnogi, megis Antur Waunfawr yn fy etholaeth. Maent wedi llwyddo am nifer o flynyddoedd i gynnig gwaith gwerthfawr a boddhaus i lawer o bobl, rhai ohonynt ag anableddau.

“Gallwn gyflawni llawer mewn datblygiad creadigol a gwerth chweil o fewn gwaith sy’n derbyn cefnogaeth yng Nghymru os yw’r cyfrifoldeb, ac yn bwysicach yr adnoddau, yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd.

“Mae datganiad y Gweinidog yn ein hatgoffa pam fod datganoli’r Gyllideb Remploy i Gymru yn hanfodol. Nid oedd ganddi hyd yn oed restr cyflawn o’r canolfannau oedd yn wynebu cau, gan adael gweithwyr mewn mannau megis Porth yn y tywyllwch dros eu dyfodol.

“Dylai’r Gweinidog hefyd gynnig ateb go iawn i’r honniadau fod y tȋm oedd yn asesu dyfodol y canolfannau Remploy wedi gwneud hynny dros y penwythnos. O ystyried faint o waith oedd i’w wneud, ni fyddai wedi bod yn bosib rhoi mwy na hanner awr o ystyriaeth i bob achos.

“Mae hyn yn sarhad i weithwyr triw ac ymroddedig.”