Glyn Davies
Mae AS Ceidwadol o Gymru sy’n aelod o’r Llywodraeth yn gwrthod dweud a fydd yn gwrthryfela tros ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.
Ond, wrth fynegi amheuon am fwriad y Llywodraeth i gwtogi ar y drafodaeth ar y mater, mae Glyn Davies yn cydnabod y byddai gwrthryfela’n arwain at ei ddiswyddo.
Cyn y bleidlais heno, doedd Glyn Davies ddim yn fodlon dweud pa ffordd y byddai’n pleidleisio ar un o’r ddau gynnig sydd gerbron, ond fe ddywedodd, “bydda i’n gwneud y peth cywir fel aelod cyfrifol o’r Senedd”.
Mae’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, sy’n golygu ei fod yn aelod di-dâl o’r Llywodraeth.
Mae’r Ceidwadwyr wedi ei gwenud hi’n glir eu bod nhw’n disgwyl i bob aelod o’r Llywodraeth gefnogi’r ddau gynnig.
Gwrthod datgelu
“Pe bawn i’n pleidleisio yn erbyn, byddwn i’n disgwyl cael fy niswyddo,” meddai Glyn Davies, Aelod Seneddol Maldwyn. “Ond fyddwn i ddim yn ymddiswyddo.”
Bydd y bleidlais gynta ar gynnig i gefnogi Mesur Diwygio Tŷ’r Arglwyddi, sydd wedi ei gyflwyno gan y Llywodraeth Glymblaid, a’r ail yn bleidlais ar gwtogi’r amserlen ar gyfer trafod y Mesur.
Mae Glyn Davies wedi dweud yn ei flog ei bod yn debygol y bydd yn cefnogi’r bleidlais gyntaf ond yn gwrthod datgelu ei fwriad ar yr ail.
Ond mewn blog yr wythnos hon, fe wnaeth yn glir fod ganddo amheuon am y bwriad i gwtogi ar yr amser trafod.
Dywedodd wrth Golwg360: “Byddai unrhyw newid i Dŷ’r Arglwyddi yn golygu newidiadau cyfansoddiadol anferth.
“Mae’n bosib y bydd 650 o Aelodau Seneddol am siarad – does dim digon o amser i hynny ddigwydd mewn cyfnod mor fyr.”
Ychwanegodd Glyn Davies y gallai ail ddarlleniad arwain at welliannau ac y byddai hynny’n rhoi mwy o amser i drafod y mater.
Un o’i bryderon yw y byddai diwygio Tŷ’r Arglwyddi’n golygu ethol corff newydd a allai fod mewn grym am hyd at bymtheg mlynedd.
“Does dim atebolrwydd dros gyfnod mor hir, a fyddan nhw ddim yn cael sefyll eto ar ddiwedd y cyfnod hwnnw,” meddai.
Mae tri AS Ceidwadol arall o Gymru eisoes wedi arwyddo llythyr yn gwrthwynebu’r Mesur diwygio – Alun Cairns, Stephen Hart a Guto Bebb.