Mae  un o lawysgrifau mwyaf hanesyddol Cymru wedi cael ei werthu heddiw am £541,250 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae llawysgrif Cyfraith Hywel Dda yn dyddio nôl i 14eg ganrif ac yn un o’r llawysgrifau cyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg.

Mae’r llyfr, gafodd ei werthu mewn ocsiwn yn Sotheby’s bore ma, yn manylu ar gyfraith arloesol a luniwyd gan Hywel Dda, gan gynnwys hawliau i ferched.

Yn y 1700au, fe aeth gwladychwyr â’r llyfr gyda nhw i America ac yna ei basio ‘mlaen drwy genedlaethau yn y cymunedau Cymraeg ym Mhennsylvania.

Cafodd y llyfr ei werthu gan Gymdeithas Hanesyddol Massachusetts oedd yn debygol o fod wedi derbyn y llawysgrif fel anrheg oddi wrth ymfudwyr Cymreig yn gynnar yn y 19eg ganrif.

Fe lwyddodd y Llyfrgell Genedlaethol i brynu’r llawysgrif gyda chymorth ariannol oddi wrth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd y Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Roedd yr ocsiwn yma’n gyfle unigryw i ddod ag un o wir drysorau Cymru adref ac rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithredu’n gyflym a chynnig yr ariannu angenrheidiol i wireddu’r broses.
“Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref naturiol y llawysgrif brin hon a gall arbenigwyr nawr ei hastudio a’i dehongli gan sicrhau ei bod yn cael ei deall yn well am y tro cyntaf.

“Yn ogystal â darparu cyfleon hyfforddi newydd ar gyfer y staff presennol, mae yna gynlluniau i brentisiaid gael rhan mewn datblygu ymchwil newydd ac ennill sgiliau arbenigol tra’n sicrhau’r darn pwysig hwn o hanes Cymru ar gyfer y dyfodol. Hefyd fe fydd yna gyfleon cyffrous i wirfoddolwyr gymryd rhan yn ystod y prosiect cyfan.”

Mae copïau eraill o’r cyfreithiau, rhai sydd hefyd yn dyddio nôl i’r 14eg ganrif, yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.