Ysgol Rydal (Llun o wefan yr ysgol)
Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley wedi dweud y byddai’n “siomedig” pe bai’r Gymraeg yn “colli ei lle” yn Ysgol Rydal Penrhos.
Mae’r ysgol ger Bae Colwyn yn bwriadu cael gwared ar wersi Cymraeg gorfodol i blant sydd yn ei hadran uwchradd er mwyn arbed arian.
Roedd Dafydd Wigley yn ddisgybl yn yr ysgol, sydd ymysg prif ysgolion bonedd Cymru, cyn mynd i Brifysgol Fictoria ym Manceinion.
“Mi faswn i’n siomedig petai’r Gymraeg yn colli ei lle,” meddai Dafydd Wigley wrth Golwg360.
“Pan oeddwn i yno, fi oedd un o’r cyntaf os nad y cyntaf i gymryd lefel O Cymraeg. Roedd rhaid iddyn nhw ddarparu gwersi Cymraeg y tu allan i’r maes llafur i mi.
“Mae yna nifer o blant o’r ardal yn mynd yno, ac felly rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n parhau i ddarparu gwersi Cymraeg y tu allan i’r brif ffrwd.”
‘Diffyg ariannol’
Dywedodd prifathro yr ysgol, Patrick Lee-Browne, wrth Golwg 360 ddechrau’r mis eu bod nhw’n ystyried torri gwesri Cymraeg o faes llafur disgyblion blwyddyn saith ac wyth oherwydd eu bod yn rhagweld diffyg ariannol yn y dyfodol.
Byddai’r ysgol yn dal i gynnig y pwnc y tu allan i wersi arferol, meddai, a byddai “clybiau a gweithgareddau Cymraeg” ar gael i ddisgyblion.
“Mae’r ysgol yn edrych ar dorri gwersi Lladin i’r un oed hefyd,” dywedodd cyn pwysleisio fod yr ysgol wedi “ymrwymo i wneud popeth fedrwn ni i gadw’r diwylliant Gymraeg yn yr ysgol”.
Ar hyn o bryd, mae Cymraeg yn bwnc gorfodol yn yr ysgol iau ac i flynyddoedd saith ac wyth yn yr ysgol uwchradd ac yn ddewis posib ar gyfer disgyblion TGAU a lefel A.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith wrth Golwg 360 y dylai rhieni “dynnu eu plant o’r ysgol”
“Maen nhw’n rhoi sylw tocenistaidd i’r iaith,” meddai Ffred Ffransis.