Llun y datblygwyr
Fe fydd deiseb yn cael ei chyflwyno yn y Cynulliad yn protestio’n erbyn bwriad i ddatblygu glan y môr yng Nghaergybi.

Mae 4,500 o bobol wedi arwyddo’r ddogfen ar ôl i Gyngor Môn roi caniatâd mewn egwyddor i ddatblygiad a fyddai’n cynnwys lle i 500 o gychod, 360 o dai a gwesty.

Yn ôl rhai trigolion lleol, fe fyddai’r datblygiad yn distrywio’r unig draeth cyhoeddus yn yr ardal a darn o lan y môr sy’n bwysig i bobol leol.

Mae’r cynghorydd lleol, Bob Llywelyn Jones, wedi cwyno nad yw’r datblygwyr, cwmni Conygar Investment a chwmni fferi y Stena Line, wedi gwrthod cyfarfod i drafod eu pryderon.

Er bod rhai agweddau ar y cynllun yn dderbyniol, meddai heddiw ar Radio Wales, fe fyddai’r datblygiad yn dinistrio un o’r ychydig lefydd sydd gan bobol leol ar gyfer hamddena.

Dadl y cwmnïau datblygu yw y byddai’r datblygiad yn fuddsoddiad o bwys yn economi’r ardal ac yn arwain at ragor o fuddsoddi.