Geraint Davies
Fe fydd cynrychiolwyr gorsaf radio gymunedol Gymraeg yn cwrdd ag Aelodau Cynulliad yr wythnos nesa’ er mwyn cael eu cefnogaeth mewn ymgyrch am gyllid.

Mae trefnwyr Radio Beca yng ngorllewin Cymru’n anhapus am fod y corff Ofcom yn gwrthod rhoi’r hawl iddyn nhw godi arian trwy hysbysebion a nawdd.

Fe fydd cynrychiolwyr o’r orsaf yn cwrdd ag ACau lleol ddydd Mawrth ac maen nhw hefyd wedi gofyn am gyfarfod gyda’r ddau weinidog sy’n gyfrifol am faterion iaith a diwylliant, Leighton Andrews a Huw Lewis.

Yn ôl Ofcom, fe fyddai rhoi hawl nawdd a hysbysebion i’r orsaf gymunedol yn tanseilio’r gorsafoedd masnachol yn yr ardal, sy’n eiddo i gwmni Town and Country.

Nod Radio Beca yw darlledu i siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro.

‘Unigryw’

“Mae Radio Beca’n unigryw ac mae’n amlwg y dylai gael yr hawl i werthu hysbysebion a denu nawdd,” meddai Geraint Davies, un o sylfaenwyr yr orsaf sy’n gobeithio dechrau darlledu’r flwyddyn nesa’.

“R’yn ni’n bwriadu mynd yn ôl at Ofcom hefyd i ddadlau’r achos ond yn y cyfamser fe fyddwn yn mynd ati i chwilio am ffyrdd eraill o gyllido’r cwmni.”

Roedd cyfarfod o bwyllgor llywio’r orsaf yn Llandysul neithiwr ac fe glywson nhw y gallai costau defnyddio trosglwyddyddion fod yn gymaint â £100,000 y flwyddyn.

Yn ôl Geraint Davies, does dim dyddiad wedi’i benderfynu ar gyfer dechrau darlledu ond “fe fyddai’n braf”, meddai, bod ar yr awyr erbyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Benfro’r flwyddyn nesa’.