Wylfa ar Ynys Mon
Yn ôl ymgyrchydd amlwg yn erbyn datblygu atomfa ar Ynys Môn, dylid cymryd unrhyw adroddiadau yn ymwneud â datblygiad Wylfa B gyda “phinsied o halen”.
Daw sylwadau Dylan Morgan o’r mudiad PAWB yn dilyn adroddiadau heddiw bod cwmni o Ffrainc ar y cyd â chwmni o Cheina am wneud cais i brynu busnes ynni niwclear Horizon.
Fe gyhoeddodd perchnogion Horizon – RWE ac E.on – yn gynharach eleni eu bod yn rhoi’r gorau i’w cynlluniau i godi ail atomfa ar Ynys Môn.
Mae disgwyl i gwmni Areva o Ffrainc a China Guangdong Nuclear Power Group wneud cais ar y cyd i brynu busnes Horizon.
Maniffesto Môn
Dywedodd Dylan Morgan: “Dyw’r dadeni niwclear yma maen nhw wedi bod yn malu awyr amdani jest ddim am ddigwydd,” ychwanegodd.
“O edrych ar y patrwm byd-eang, mae cynnydd sylweddol yn yr holl gynnyrch o ynni adnewyddol oni bai am ynni niwclear, sydd wedi gostwng yn sylweddol yn y degawd diwethaf.
“Yr unig ffordd y gall y cwmnïau yma fwrw ‘mlaen a’i datblygiadau yw gwasgu gymaint o arian ag sy’n bosib allan o’r llywodraeth,” meddai Dylan Morgan.
“Ond dyw hynny jest ddim yn bosib o dan yr amodau economaidd llym iawn mae’r wlad yn ei wynebu ar hyn o bryd.”
Fe fydd mudiad PAWB, sy’n ymgyrchu yn erbyn adeiladu gorsaf niwclear ‘Wylfa B’, yn hyrwyddo Maniffesto Môn mewn araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd awdur y maniffesto, Dr Carl Clowes, yn amlinellu gweledigaeth economaidd amgen i Fôn sydd ddim yn ddibynnol ar ynni niwclear.
“Mae Maniffesto Môn yn cynnig ffyrdd amgen a saff o gynhyrchu ynni adnewyddol ar yr ynys,” ychwanegodd Dylan Morgan.