Wylfa, Ynys Mon
Yn ôl rhai adroddiadau, mae cwmni o Ffrainc wedi dangos diddordeb mewn prynu menter a oedd wedi bwriadu datblygu atomfa  ‘Wylfa B’ yn Ynys Môn.

Fe wnaeth perchnogion Horizon dynnu nôl o’r cynllun ym mis Mawrth oherwydd gofidion ariannol am brosiectau eraill yn Ewrop.

Roedd y prosiect yn bwriadu creu 5,000 o swyddi yn sgil y cynllun.

Yn ôl adroddiadau ITV, mae cwmni niwclear, Areva, wedi dweud y bydden nhw mwy na thebyg yn gwneud cynnig i brynu’r cynllun mewn partneriaeth â chwmni pŵer o Tsieina.