Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo dod a ras feics y Tour de France i Gymru pe baen nhw’n fuddugol yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Mae cam cyntaf y ras yn cael ei gynnal y tu allan i Ffrainc fel arfer, ond dyw’r gystadleuaeth erioed wedi ymweld â Chymru.

Mae Dems Rhydd Cymru wedi ychwanegu addewid i gynnal y Tour de France yng Nghymru yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Dywedodd Veronica German, sy’n Aelod Cynulliad dros Dde Ddwyrain Cymru, mai Cymru oedd y lle delfrydol i gynnal y ras.

“Byddai Cymru yn le ysblennydd i gynnal y ras. Fe allen nhw rasio o Eryri i Fannau Brycheiniog,” meddai.

“Mae seiclwyr gan gynnwys Nicole Cooke a Geraint Thomas wedi dangos bod y Cymry ymysg y goreuon ar gefn beic.

“Ar ôl llwyddiant Cwpan Ryder fe fyddai’r Tour de France yn rhoi cyfle arall i Gymru ddangos ei allu. Mae tua phedair miliwn o bobol yn gwylio’r gystadleuaeth.

“Fe aeth y Tour de France i Loegr yn 2007, a gydag ychydig bach o arweiniad fe allai ddod i Gymru yn y dyfodol agos.”