Fe fydd y Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn teithio i Aberystwyth heddiw i gwrdd â rhai o’r bobl sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd yn ardal Ceredigion fis diwethaf.

Fe fydd hefyd yn cwrdd â’r gwasanaethau brys fu’n helpu i achub pobl o’u cartrefi ym mhentrefi Talybont, Dol-y-Bont, Llanbadarn a Borth.

Mae’n debyg bod hyd at 1,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ar y pryd, ac mae rhai trigolion yn ardal Talybont wedi clywed efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw aros hyd at naw mis cyn dychwelyd i’w cartrefi.

Yn ôl swyddogion y Tywysog, roedd yn bryderus iawn am y difrod a achoswyd yn sgil y llifogydd ac fe ddatgelwyd ei fod hefyd wedi  gwneud cyfraniad “hael” i gronfa apêl sydd wedi cael ei sefydlu i helpu’r rhai gafodd eu heffeithio gan y llifogydd.

Mae’r Tywysog ar ymweliad pedwar diwrnod â Chymru ac mae disgwyl iddo hefyd ymweld â’i fab Tywysog William yn safle’r Llu Awyr yn y Fali, Ynys Môn yn ogystal ag agor Canolfan Fwyd Bodnant yn Nyffryn Conwy.

Bydd hefyd yn ymweld â’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin ac yn cwrdd â chynhyrchwyr bwyd lleol a gwestai sy’n gweithio gyda’i gilydd ym Mynyddoedd Cambria.

Mae’r daith hefyd yn cynnwys ymweliad â bragdy yn Llanelli a fferm gymunedol yn Abertawe.