Cyngor Gwynedd
Dylai nifer y cynghorau yng Nghymru gael eu cwtogi o 22 i saith, yn ôl corff busnesau CBI Cymru.

Maen nhw wedi cyhoeddi maniffesto cyn etholiadau’r Cynulliad sy’n dweud fod angen saith awdurdod lleol yng Nghymru “ar y mwyaf”.

Maen nhw hefyd yn galw am weinidog i gynrychioli Gogledd Cymru, a rhewi cyflogau yn y sector gyhoeddus am ddwy flynedd.

Fe ddylai penderfyniadau cynllunio gael eu gwneud gan Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad, ar sail budd i’r economi yn hytrach nag yr effaith ar yr amgylchedd, medden nhw.

Maen nhw hefyd yn galw am newid y maes llafur er mwyn sicrhau fod rhagor o bwyslais ar ddysgu sgiliau sylfaenol i ddisgyblion.

‘Cyfnod allweddol’

“Fe fydd y pedair blynedd nesaf yn gyfnod allweddol i Gymru,” meddai cyfarwyddwr CBI Cymru, David Rosser.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad fachu’r cyfle i sicrhau bod yr economi yn ffynnu unwaith eto.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cryfhau economi Cymru gan greu cyfloed i’r genhedlaeth yma a’r nesaf.

“Mae’n hen bryd i Lywodraeth y Cynulliad benderfynu a ydi gwasanaethau cyhoeddus er budd y gweithwyr sy’n eu darparu ynteu’r bobol sy’n eu defnyddio.”

Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn ystyried gofyn am bwerau i uno cynghorau, ac mae awgrym y bydd cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn cael eu huno.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai cyfuno cynghorau yn ddrud ar adeg pan mae arian yn brin.