Carl Whant
Ymddangosodd llofrudd honedig Nikitta Grender o flaen llys am y tro cyntaf heddiw.
Cafodd Carl Whant, 26, o Betws yng Nghasnewydd ei gyhuddo o lofruddio’r ferch feichiog 19 oed ddydd Sadwrn.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ddinistrio bywyd y plentyn oedd yng nghroth y ferch 19 oed.
Mae Carl Whant yn gyfyrder i gariad a thad plentyn Nikitta Grender, Ryan Mayes, 18.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff ar 5 Chwefror yn Llyswyry – roedd wedi cael ei thrywanu ddwywaith a’r fflat wedi ei roi ar dân.
Cafodd Carl Whant ei arestio pedwar diwrnod ar ôl y llofruddiaeth a’i holi gan Heddlu Gwent am fwy na thridiau cyn iddyn nhw ei gyhuddo.
Ymddangosodd heddiw o flaen Llys Ynadon Caerffili. Roedd yna lawer iawn o heddlu y tu allan i’r llys.
Roedd Carl Whant heb eillio ac roedd yn edrych yn welw ac anniben. Roedd yn gwisgo top hwdi glas a throwsus tywyll.
Siaradodd er mwyn cadarnhau ei enw a’i oed yn unig. Doedd ganddo ddim cyfeiriad penodol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron ddydd Mercher.