Gwesty Cofi
Mae un o’r gwyliau mwyaf amrywiol yng Nghymru wedi dechrau heddiw yng Nghaernarfon.

Eleni fydd pedwaredd flwyddyn Gŵyl Arall, sy’n cael ei redeg yn ddielw gan griw bychan o wirfoddolwyr.

Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn flaenllaw yn y broses o drefnu’r ŵyl mae Eirian James, perchennog y siop lyfrau leol, Palas Print.

“Eleni, am y tro cyntaf, ry’n ni’n mynd yn rhyngwladol,” meddai Eirian James.

“Bydd y band o Niger, Endless Journey, yn chwarae am y tro cyntaf yng Nghymru, felly mi fydd hynny’n wych.

“Roedd gennym ni’r trefnwyr rhyw fath o ‘wish list’ gwahanol pan ddechreuon ni nôl yn 2009, ac yn araf bach, mae pob un yn cael ei wireddu fesul blwyddyn!’

Bydd 32 o bethau gwahanol yn digwydd dros dridiau ar hyd a lled y dref, yr run nifer â’r llynedd.

Ond eleni, am y tro cyntaf, bydd gweithdy ar gyfer actorion ifanc yn cael ei gynnal yn y Galeri, yn cael ei redeg gan Stephen Bayly, cyfarwyddwr y ffilm arloesol Rhosyn a Rhith.

Yn ystod y nos mi fydd cyfle prin iawn i bobol gael gweld y ffilm.

Geraint Jarman i gloi

Bydd celf, ffilmiau a cherddoriaeth byw ledled y dref drwy gydol y penwythnos.

“Roedden ni’n teimlo fod rhaid gwneud rhywbeth yng Nghaernarfon,” meddai Eirian James. “Mae’n le gwych i gynnal gŵyl amrywiol ddwyieithog fel hon.”

“Ry’n ni wedi trio cadw’r peth mor lleol ag sy’n bosib gan obeithio y bydd llawer o fusnesau lleol yn elwa o hyn. Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i’r holl fudiadau sy’ wedi ein noddi ni.”

Mi fydd y penwythnos yn dod i ben gyda pherfformiad byw gan Geraint Jarman ar y nos Sul yn Clwb Canol Dre.

Erbyn hynny, bydd Eirian James yn gobeithio fod yr holl waith caled o drefnu’r ŵyl wedi dwyn ffrwyth.

“Rwy’n bendant yn edrych ymlaen at y noson olaf lle ga’i amser i ymlacio tipyn bach wrth wrando ar Geraint Jarman!”

Am restr lawn o weithgareddau’r ŵyl, ewch i  www.gwylarall.com