Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi ymateb heddiw i’r cyhoeddiad fod rôl y Llywodraeth i arolygu proses ddiwygio S4C wedi dod i ben.

Daeth y BBC a S4C i gytundeb y llynedd dros ddyfodol a chyllideb S4C tan 2017 a fydd yn sicrhau dyfodol tymor hir cynaliadwy i’r sianel a darlledu cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd David Jones, “Fel Llywodraeth, rydym ni wedi pwysleisio ar sawl achlysur ein bod ni’n ymroddedig i wasanaeth deledu gryf ac annibynnol yn y Gymraeg.”

“Mae’r bartneriaeth yma’n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd y mae’r sianel ei hangen i fynd o nerth i nerth o dan arweiniad y cadeirydd a’r prif weithredwr newydd,” ychwanegodd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y bartneriaeth gyda’r BBC yn ffynnu yn y dyfodol.”

Fe fu’r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, yn cyfarfod â chynrychiolydd o Ymddiriedolaeth y BBC, Elan Closs Stephens, heddiw i drafod y mater ymhellach.