Mike Gatting ac Andrew Strauss yn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Llandaf
Daeth cannoedd o bobl i angladd y cricedwr Tom Maynard yn Eglwys Gadeiriol, Llandaf yng Nghaerdydd heddiw.

Bu farw cyn-fatiwr Morgannwg a Surrey, oedd yn 23 oed,  ar 18 Mehefin ar ôl cael ei daro gan un o drenau tanddaearol Llundain.

Ynghyd a’i dad, cyn-gricedwr Morgannwg Matthew Maynard, ei fam Sue a’i chwaer Ceri, roedd rhai o enwau amlwg y byd criced gan gynnwys capten Lloegr Andrew Strauss, Andrew Flintoff, Paul Collingwood, Mike Gatting, Alec Stewart a Kevin Pietersen.

Roedd rheolwr gyfarwyddwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, a chyn gapten Morgannwg, Hugh Morris wedi rhoi teyrnged i’r cricedwr ifanc oedd a gyrfa disglair o’i flaen.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.


Yn ôl rhai adroddiadau, mae capten Surrey, Rory Hamilton-Brown wedi cyhoeddi y bydd yn cymryd saib amhenodol o’r gem wrth iddo geisio dod i delerau â marwolaeth ei gyfaill.