Mae gwyddonwyr yn y Swistir yn meddwl eu bod nhw wedi darganfod gronyn sy’n egluro sut mae’r bydysawd yn glynu at ei gilydd.

Daeth y darganfyddiad mewn adroddiad ar y Large Hadron Collider (LHC), y cyflymydd gronynnau ‘Big Bang’ sydd wedi costio £2.6 biliwn ac a oedd yn cael ei arwain gan Dr Lyn Evans o Aberdâr.

Mae’r Cymro’n cael ei adnabod gan ei gyfoedion fel ‘Evans the Atom’ ac roedd yn un o brif sylfaenwyr yr LHC pan ddechreuodd y broses yn 1994.

Mae’r darganfyddiad yn llenwi bwlch yn y theori sy’n egluro sut mae’r holl ronynnau, y grymoedd a rhyngweithiau’n cyfuno i siapio’r bydysawd.

Y cefndir

Heb yr Higgs boson, byddai popeth yn ymddwyn fel mae golau’n ei wneud, heb gyfuno ag unrhyw beth arall. Felly, yn ôl y gwyddonwyr, fyddai atomau, mater cyffredin, a’r Ddaear ddim yn bod.

“Mae’n ddiwrnod pwysig iawn i wyddoniaeth,” meddai’r Athro John Womersley, prif weithredwr Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Cyngor Cyfleusterau, wrth ohebwyr mewn cyfarfod briffio yn Llundain.

“Maen nhw wedi darganfod gronyn sydd yn gyson a’r Higgs boson. Darganfod yw’r gair pwysig.”