Mae  nifer y bagiau plastig untro sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers i Lywodraeth Cymru ddechrau codi 5c am fag siopa.

Yn ôl y ffigurau gan fanwerthwyr, mae gostyngiad o 96% wedi bod mewn rhai sectorau. Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 70% o bobl Cymru bellach yn cefnogi’r tâl am fag untro.

Daw’r ffigurau yn dilyn gwaith ymchwil  gyda manwerthwyr a Chonsortiwm Manwerthu Prydain (BRC) i gasglu data oddi wrth sampl o fanwerthwyr i amcangyfrif effaith y tâl a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2011.

Mae manwerthwyr bwyd yn amcangyfrif bod gostyngiad o 96% yn nifer y bagiau sy’n cael eu defnyddio, tra bod manwerthwyr  ffasiwn wedi gweld gostyngiad  o 75%, gwasanaethau bwyd hyd at 45%, a  manwerthwyr telathrebu yn gweld gostyngiad  o 85%.

Mae nifer o brosiectau amgylcheddol ac achosion da hefyd wedi elwa o’r tâl am fagiau untro – mae’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus wedi derbyn £105,000 ers mis Hydref.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths: “Rydw i wrth fy modd bod ymchwil a ffigurau gan fanwerthwyr yn cadarnhau’r hyn maen nhw wedi bod yn ei ddweud wrthym ni ers peth amser. Mae pobl Cymru wedi addasu’n ardderchog i’r tâl am fagiau untro ac mae’r mwyafrif bellach yn mynd a’u bagiau eu hunain gyda nhw pan maen nhw’n mynd i siopa.

“Hoffwn i ddiolch i’r manwerthwyr a’r siopwyr am eu help i wneud y polisi yma – y cyntaf o’i fath yn  y DU – yn llwyddiant.

“Er hynny mae mwy eto i’w wneud cyn y byddwn yn wlad ddiwastraff a byddwn yn dal i weithio gyda manwerthwyr a’r cyhoedd i wireddu’r amcan hwn.”