Maes awyr Caerdydd
Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddatblygu meysydd awyr a phorthladdoedd yng Nghymru, meddai pwyllgor yn y Cynulliad.

Mae hynny’n cynnwys datganoli rhagor o rym a chreu strategaeth gyfan sy’n cyfuno teithio gan bobol o’r tu allan a system drafnidiaeth fewnol Cymru.

Er bod y rhan fwyaf o’r grym yn nwylo Llywodraeth Prydain a’r farchnad, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn dweud bod eisiau i’r Llywodraeth yng Nghymru weithredu hefyd.

Maen nhw’n galw ar weinidogion i bwyso ar reolwyr Maes Awyr Caerdydd i fuddsoddi rhagor – mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi beirniadu safon yr adnoddau yno.

‘Hollbwysig i’r economi’

“Mae porthladdoedd a meysydd awyr yn hollbwysig i dwf economaidd Cymru,” meddai’r adroddiad. “Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael iddi fel bod modd gwireddu potensial llawn porthladdoedd a meysydd awyr.”

Roedd Maes Awyr Caerdydd wedi colli gwasanaethau a theithwyr, meddai’r ACau – mwy na 30% mewn tair blynedd o ran teithwyr a 98% o ran nwyddau.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Nick Ramsay, roedd angen strategaeth gyfun: “Mae angen dull gweithredu mwy cyfannol, fel y gall polisïau ar borthladdoedd a meysydd awyr gyd-fynd yn well â pholisïau sy’n anelu at wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyfan.”