Alun Davies
Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, wedi datgan heddiw y bydd y cynllun amaethyddol-amgylcheddol Glastir yn parhau hyd at 2020.

Mae’n gynllun ardderchog, meddai, sy’n addas ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru ac ar gyfer y dyfodol.

Ni fydd unrhyw adolygiadau pellach o’r cynllun yn digwydd, meddai, ond mi fydd yn cael ei newid er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i ffermwyr, i leihau gwaith papur ac i drosglwyddo’r wybodaeth am y cynllun yn well.

Roedd yr adolygiad yr oedd wedi ei wneud o Glastir wedi bod yn ymarferiad positif iawn, meddai Alun Davies.

“Mae Glastir yma i aros,” meddai.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru heddiw fod hyn yn gam i’r cyfeiriad iawn.

“Fe fydden ni wedi hoffi ei weld yn mynd ymhellach o ran rhai agweddau eraill o’r cynllun, ond rydym yn croesawu’r pwyslais ar wella cyfathrebu ar bob lefel o’r cynllun,” meddai Gavin Williams, Cadeirydd Pwyllgor  Seneddol a Defnydd o’r tir yr Undeb.

“Mae’n gam i’r cyfeiriad iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r negeseuon cywir i’r ffermwyr, gan gofio fod cyfathrebu ac ymrwymiad yn broses ddwy ffordd,” ychwanegodd.