Mae’r awdurdodau yn Affganistan wedi enwi’r heddwas sy’n cael ei amau o lofruddio tri milwr o Brydain dydd Sul, yn cynnwys dau aelod o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig.

Mae’r heddwas wedi cael ei enwi fel Ziarahman, sy’n 25 oed.

Dywed ei fod yn dod o Herat yng ngorllewin Affganistan, a’i fod wedi cael ei anafu a’i ddal.

Digwyddodd y saethu dydd Sul mewn atalfa yn nhalaith Helmand. Bu farw’r tri milwr yn y fan a’r lle. Anafwyd milwr arall yn y digwyddiad ond nid yw ei anafiadau ef yn rhai difrifol.

Roedd Ziarahman wedi bod yn aelod o gangen arbennig o heddlu Affganistan ers naw mis. Roedd wedi bod yn Helmand ers deufis.