Mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad wedi galw am bwerau i fenthyg arian i wario ar briffyrdd ac isadeiledd, gan felly roi hwb i dwf economaidd yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb ar reolau benthyca gan Whitehall.

Mae’r Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n dweud y dylid mabwysiadu fframwaith reoli gyda’r Trysorlys sy’n cynnig yr “hyblygrwydd mwya’ posib i fenthyca yn effeithiol er mwyn ateb  anghenion buddsoddi.”

Nid ydynt am weld benthyca anghyfrifol. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at y sefyllfa yn Sbaen lle mae benthyca gan lywodraethau rhanbarthol wedi cyfrannu at broblemau economaidd y wlad.

O dan y drefn bresennol, mae cyllid Llywodraeth Cymru’n dibynnu’n llwyr ar y grant blynyddol sy’n dod o’r Trysorlys, o amgylch £15biliwn ar hyn o bryd.

Ond mae Gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon wedi cael mwy o bŵer i fenthyg arian, ac mae hyn yn cael ei ymestyn i Lywodraeth yr Alban.

Comisiwn Silk

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain wedi bod yn trafod ers misoedd, a dywed Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y trafodaethau hyn yn awr wedi arwain at bwynt lle dylai penderfyniad gael ei wneud.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies, eu bod yn cynnig 17 o argymhellion yn eu hadroddiad, llawer ohonyn nhw wedi eu seilio ar waith y Comisiwn Silk, sef y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru gafodd ei lansio gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ym mis Hydref y llynedd.

Sefydlwyd y Comisiwn annibynnol hwn i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.  Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar atebolrwydd ariannol Llywodraeth Cymru yn yr Hydref eleni, ac adroddiad ar bwerau’r Llywodraeth y flwyddyn nesaf.

“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac wrth i gyllidebau cyfalaf barhau i ostwng, mae’n hanfodol bod llywodraethau’n gallu defnyddio adnoddau prin yn effeithiol i fuddsoddi arian cyfalaf a allai yn ei hun weithredu fel modd o gefnogi twf economaidd,” meddai Jocelyn Davies.